Agos berthynas sydd yn bod
Rhwng Crist a'i briod hygar;
Fel gwr a gwraig,
fel tad a phlant,
O'r un gogoniant hawddgar.
O gariad! uwchlaw cariad neb,
Ffynnon doethineb nefol,
Yn cael ei hagoryd yn ein dydd,
A'i ffrydiau sydd rinweddol.
Duw'n rhoi ei Fab yn rhad i'n rhan,
Er maint ein haneilyngdod;
Yn Frawd oedd fawr,
yn Dad sy' fwy,
A Phriod trwy gyfammod.
Adnabod Duw yn Iesu Grist,
Wna enaid trist yn siriol;
A'n hundeb nefol di-wahan,
Trwy'r Yspryd Glân sancteiddiol.
Adnabod Crist mewn undeb clos,
A hwnnw'n gro'shoeliedig;
Yn rad, yn Briod, ac yn Ben,
A'n Ceidwad bendigedig.
Agos berthynas addas yw
Ein bod i Dduw yn feibion;
Yn frodyr Crist yn hyn o fyd,
A theimlau'r Yspryd graslon.
Rho'wn i rad-ras y clod i gyd,
Trwy'n bywyd diwyd duwiol;
I'r Tad, a'r Mab,
mewn nefol gân,
A'r Yspryd Glân sancteiddiol.
Amryw Hymnau Dymunol a Phrofiadol (Harri Sion) 1773
[Mesur: MS 8787] |
A close relationship exists
Between Christ and his lovely bride;
Like a man and wife,
like a father and children,
Of the same amiable glory.
O love above anyone's love,
A wise, heavenly fountain,
Being opened in our day,
With its streams that are wonderful.
God giving his Son freely for our portion,
Despite the extent of our unworthiness;
As a Brother who was great,
as a Father who is greater,
And a spouse through a covenant.
Know God in Jesus Christ,
Shall my sad soul cheerfully;
And our heavenly, inseparable union,
Through the sacred Holy Spirit.
Know Christ in a close union,
And him crucified;
Gracious, as Spouse, and as Head,
And our blessed Saviour.
A worthy, close relationship is
Our being to God as sons;
As brothers of Christ in this world,
And feel the gracious Spirit.
Let us render to free grace all the acclaim,
Throughout our diligent, godly life;
To the Father, and the Son,
in a heavenly song,
And the sacred Holy Spirit.
tr. 2025 Richard B Gillion
|
|